19 Ond dal i sefyll y mae'r sylfaen gadarn a osododd Duw, a'r sêl sydd arni yw: “Y mae'r Arglwydd yn adnabod y rhai sy'n eiddo iddo”, a “Pob un sy'n enwi enw'r Arglwydd, cefned ar ddrygioni”.
20 Mewn tŷ mawr y mae nid yn unig lestri aur ac arian ond hefyd lestri pren a chlai, rhai i gael parch ac eraill amarch.
21 Os yw rhywun yn ei lanhau ei hun oddi wrth y pethau drygionus hyn, yna llestr parch fydd ef, cysegredig, defnyddiol i'r Meistr, ac addas i bob gweithred dda.
22 Ffo oddi wrth nwydau ieuenctid, a chanlyn gyfiawnder a ffydd a chariad a heddwch, yng nghwmni'r rhai sy'n galw ar yr Arglwydd â chalon bur.
23 Paid â gwneud dim â chwestiynau ffôl a di-ddysg; fe wyddost mai codi cwerylon a wnânt.
24 Ni ddylai gwas yr Arglwydd fod yn gwerylgar, ond yn dirion tuag at bawb, yn athro da, yn ymarhous,
25 yn addfwyn wrth ddisgyblu'r rhai sy'n tynnu'n groes. Oherwydd pwy a ŵyr na fydd Duw ryw ddydd yn rhoi iddynt edifeirwch i ddod i ganfod y gwirionedd,