8 Cofia Iesu Grist: ei gyfodi oddi wrth y meirw, ei eni o linach Dafydd, yn ôl yr Efengyl yr wyf fi yn ei phregethu.
9 Yng ngwasanaeth yr Efengyl hon yr wyf yn dioddef hyd at garchar, fel rhyw droseddwr, ond nid oes carchar i ddal gair Duw.
10 Felly, yr wyf yn goddef y cyfan er mwyn ei etholedigion, iddynt hwythau hefyd gael yr iachawdwriaeth sydd yng Nghrist Iesu, ynghyd â gogoniant tragwyddol.
11 Dyma air i'w gredu:“Os buom farw gydag ef, byddwn fyw hefyd gydag ef;
12 os dyfalbarhawn, cawn deyrnasu hefyd gydag ef;os gwadwn ef, bydd ef hefyd yn ein gwadu ninnau;
13 os ydym yn anffyddlon, y mae ef yn aros yn ffyddlon,oherwydd ni all ef ei wadu ei hun.”
14 Dwg ar gof i bobl y pethau hyn, gan eu rhybuddio yng ngŵydd Duw i beidio â dadlau am eiriau, peth cwbl anfuddiol, ac andwyol hefyd i'r rhai sy'n gwrando.