18 A bydd yr Arglwydd eto'n fy ngwaredu i rhag pob cam, a'm dwyn yn ddiogel i'w deyrnas nefol. Iddo ef y byddo'r gogoniant byth bythoedd! Amen.
19 Rho fy nghyfarchion i Prisca ac Acwila, a theulu Onesifforus.
20 Arhosodd Erastus yng Nghorinth, a gadewais Troffimus yn glaf yn Miletus.
21 Gwna dy orau i ddod cyn y gaeaf. Y mae Eubwlus a Pwdens a Linus a Clawdia, a'r cyfeillion oll, yn dy gyfarch.
22 Yr Arglwydd fyddo gyda'th ysbryd di! Gras fyddo gyda chwi!