38 ond yr oedd Paul yn barnu na ddylent gymryd yn gydymaith un oedd wedi cefnu arnynt yn Pamffylia, a heb fynd ymlaen a chydweithio â hwy.
39 Bu cymaint cynnen rhyngddynt nes iddynt ymwahanu. Cymerodd Barnabas Marc, a hwylio i Cyprus;
40 ond dewisodd Paul Silas, ac aeth i ffwrdd, wedi ei gyflwyno gan y credinwyr i ras yr Arglwydd.
41 A bu'n teithio drwy Syria a Cilicia, gan gadarnhau'r eglwysi.