20 ac wedi dod â hwy gerbron yr ynadon, meddent, “Y mae'r dynion yma'n cythryblu ein dinas ni; Iddewon ydynt,
21 ac y maent yn cyhoeddi defodau nad yw'n gyfreithlon i ni, sy'n Rhufeinwyr, eu derbyn na'u harfer.”
22 Yna ymunodd y dyrfa yn yr ymosod arnynt. Rhwygodd yr ynadon y dillad oddi amdanynt, a gorchymyn eu curo â ffyn.
23 Ac wedi rhoi curfa dost iddynt bwriasant hwy i garchar, gan rybuddio ceidwad y carchar i'w cadw'n ddiogel.
24 Gan iddo gael y fath rybudd, bwriodd yntau hwy i'r carchar mewnol, a rhwymo'u traed yn y cyffion.
25 Tua hanner nos, yr oedd Paul a Silas yn gweddïo ac yn canu mawl i Dduw, a'r carcharorion yn gwrando arnynt.
26 Ac yn sydyn bu daeargryn mawr, nes siglo seiliau'r carchar. Agorwyd yr holl ddrysau ar unwaith, a datodwyd rhwymau pawb.