24 Gan iddo gael y fath rybudd, bwriodd yntau hwy i'r carchar mewnol, a rhwymo'u traed yn y cyffion.
25 Tua hanner nos, yr oedd Paul a Silas yn gweddïo ac yn canu mawl i Dduw, a'r carcharorion yn gwrando arnynt.
26 Ac yn sydyn bu daeargryn mawr, nes siglo seiliau'r carchar. Agorwyd yr holl ddrysau ar unwaith, a datodwyd rhwymau pawb.
27 Deffrôdd ceidwad y carchar, a phan welodd ddrysau'r carchar yn agored, tynnodd ei gleddyf ac yr oedd ar fin ei ladd ei hun, gan dybio fod ei garcharorion wedi dianc.
28 Ond gwaeddodd Paul yn uchel, “Paid â gwneud dim niwed i ti dy hun; yr ydym yma i gyd.”
29 Galwodd ef am oleuadau, a rhuthrodd i mewn; daeth cryndod arno, a syrthiodd o flaen Paul a Silas.
30 Yna daeth â hwy allan a dweud, “Foneddigion, beth sy raid imi ei wneud i gael fy achub?”