13 A dyma rai o'r Iddewon a fyddai'n mynd o amgylch gan fwrw allan gythreuliaid, hwythau'n ceisio enwi enw'r Arglwydd Iesu uwchben y rhai oedd ag ysbrydion drwg ganddynt, gan ddweud, “Yr wyf yn eich siarsio chwi yn enw Iesu, yr un y mae Paul yn ei bregethu.”
14 Ac yr oedd gan ryw Scefa, prif offeiriad Iddewig, saith mab oedd yn gwneud hyn.
15 Ond atebodd yr ysbryd drwg hwy, “Iesu, yr wyf yn ei adnabod ef; a Paul, gwn amdano yntau; ond chwi, pwy ydych?”
16 Dyma'r dyn ac ynddo'r ysbryd drwg yn llamu arnynt, ac yn eu trechu i gyd, a'u maeddu nes iddynt ffoi o'r tŷ yn noeth a chlwyfedig.
17 Daeth hyn yn hysbys i'r holl Iddewon a Groegiaid oedd yn byw yn Effesus, a dychrynodd pawb; a chafodd enw'r Arglwydd Iesu ei fawrygu.
18 Daeth llawer o'r rhai oedd bellach yn gredinwyr, a chyffesu eu dewiniaeth ar goedd.
19 Casglodd llawer o'r rhai a fu'n ymarfer â swynion eu llyfrau ynghyd, a'u llosgi yng ngŵydd pawb; cyfrifwyd gwerth y rhain, a'i gael yn hanner can mil o ddarnau arian.