3 Wedi dod i olwg Cyprus, a'i gadael ar y chwith, hwyliasom ymlaen i Syria, a glanio yn Tyrus, oherwydd yno yr oedd y llong yn dadlwytho.
4 Daethom o hyd i'r disgyblion, ac aros yno saith diwrnod; a dywedodd y rhain wrth Paul trwy'r Ysbryd am beidio â mynd ymlaen i Jerwsalem.
5 Ond pan ddaeth ein dyddiau yno i ben, ymadawsom ar ein taith, a phawb ohonynt, ynghyd â'u gwragedd a'u plant, yn ein hebrwng i'r tu allan i'r ddinas. Aethom ar ein gliniau ar y traeth, a gweddïo,
6 a ffarwelio â'n gilydd. Yna dringasom ar fwrdd y llong, a dychwelsant hwythau adref.
7 Daeth ein mordaith o Tyrus i ben wrth inni gyrraedd Ptolemais. Cyfarchasom y credinwyr yno ac aros un diwrnod gyda hwy.
8 Trannoeth, aethom ymaith a dod i Gesarea; ac aethom i mewn i dŷ Philip yr efengylwr, un o'r Saith, ac aros gydag ef.
9 Yr oedd gan hwn bedair merch ddibriod, a dawn proffwydo ganddynt.