7 Daeth ein mordaith o Tyrus i ben wrth inni gyrraedd Ptolemais. Cyfarchasom y credinwyr yno ac aros un diwrnod gyda hwy.
8 Trannoeth, aethom ymaith a dod i Gesarea; ac aethom i mewn i dŷ Philip yr efengylwr, un o'r Saith, ac aros gydag ef.
9 Yr oedd gan hwn bedair merch ddibriod, a dawn proffwydo ganddynt.
10 Yn ystod y dyddiau lawer y buom gydag ef, daeth dyn i lawr o Jwdea, proffwyd o'r enw Agabus.
11 Daeth atom, a chymryd gwregys Paul, a rhwymo'i draed a'i ddwylo ei hun, a dweud, “Dyma eiriau'r Ysbryd Glân: ‘Y gŵr biau'r gwregys hwn, fel hyn y rhwyma'r Iddewon ef yn Jerwsalem, a'i draddodi i ddwylo'r Cenhedloedd.’ ”
12 Pan glywsom hyn, dechreusom ni a phobl y lle erfyn arno i beidio â mynd i fyny i Jerwsalem.
13 Yna atebodd Paul, “Beth yr ydych yn ei wneud, yn wylo ac yn torri fy nghalon? Oherwydd yr wyf fi'n barod, nid yn unig i gael fy rhwymo, ond hyd yn oed i farw, yn Jerwsalem, er mwyn enw'r Arglwydd Iesu.”