7 Aeth rhyw deirawr heibio, a daeth ei wraig i mewn, heb wybod beth oedd wedi digwydd.
8 Dywedodd Pedr wrthi, “Dywed i mi, ai am hyn a hyn y gwerthasoch y tir?” “Ie,” meddai hithau, “am hyn a hyn.”
9 Ac meddai Pedr wrthi, “Sut y bu ichwi gytuno i roi prawf ar Ysbryd yr Arglwydd? Dyma wrth y drws sŵn traed y rhai a fu'n claddu dy ŵr, ac fe ânt â thithau allan hefyd.”
10 Ar unwaith syrthiodd hithau wrth ei draed, a marw. Daeth y dynion ifainc i mewn a'i chael hi'n gorff, ac aethant â hi allan, a'i chladdu gyda'i gŵr.
11 Daeth ofn mawr ar yr holl eglwys ac ar bawb a glywodd am hyn.
12 Trwy ddwylo'r apostolion gwnaed arwyddion a rhyfeddodau lawer ymhlith y bobl. Yr oeddent oll yn arfer dod ynghyd yng Nghloestr Solomon.
13 Nid oedd neb arall yn meiddio ymlynu wrthynt, ond yr oedd y bobl yn eu mawrygu,