24 Atebodd Simon, “Gweddïwch chwi drosof fi ar yr Arglwydd, fel na ddaw arnaf ddim o'r pethau a ddywedsoch.”
25 Wedi iddynt dystiolaethu a llefaru gair yr Arglwydd, cychwynasant hwythau yn ôl i Jerwsalem, a chyhoeddi'r newydd da i lawer o bentrefi'r Samariaid.
26 Llefarodd angel yr Arglwydd wrth Philip: “Cod,” meddai, “a chymer daith tua'r de, i'r ffordd sy'n mynd i lawr o Jerwsalem i Gasa.” Ffordd anial yw hon.
27 Cododd yntau ac aeth. A dyma ŵr o Ethiop, eunuch, swyddog uchel i Candace brenhines yr Ethiopiaid, ac yn ben ar ei holl drysor hi; yr oedd hwn wedi dod i Jerwsalem i addoli,
28 ac yr oedd yn dychwelyd ac yn eistedd yn ei gerbyd, yn darllen y proffwyd Eseia.
29 Dywedodd yr Ysbryd wrth Philip, “Dos a glŷn wrth y cerbyd yna.”
30 Rhedodd Philip ato a chlywodd ef yn darllen y proffwyd Eseia, ac meddai, “A wyt ti'n deall, tybed, beth yr wyt yn ei ddarllen?”