14 Yr Ysbryd hwn yw'r ernes o'n hetifeddiaeth, nes ein prynu'n rhydd i'w meddiannu'n llawn, er clod i ogoniant Duw.
15 Am hynny, o'r pryd y clywais am y ffydd sydd gennych yn yr Arglwydd Iesu, ac am eich cariad tuag at yr holl saint,
16 nid wyf fi wedi peidio â diolch amdanoch, gan eich galw i gof yn fy ngweddïau.
17 A'm gweddi yw, ar i Dduw ein Harglwydd Iesu Grist, Tad y gogoniant, roi i chwi, yn eich adnabyddiaeth ohono ef, yr Ysbryd sy'n rhoi doethineb a datguddiad.
18 Bydded iddo oleuo llygaid eich deall, a'ch dwyn i wybod beth yw'r gobaith sy'n ymhlyg yn ei alwad, beth yw cyfoeth y gogoniant sydd ar gael yn yr etifeddiaeth y mae'n ei rhoi i chwi ymhlith y saint,
19 a beth yw aruthrol fawredd y gallu sydd ganddo o'n plaid ni sy'n credu,
20 y grymuster hwnnw a gyflawnodd yng ngrym ei nerth yng Nghrist pan gyfododd ef oddi wrth y meirw, a'i osod i eistedd ar ei ddeheulaw yn y nefolion leoedd,