4 Cyn seilio'r byd, fe'n dewisodd yng Nghrist i fod yn sanctaidd ac yn ddi-fai ger ei fron mewn cariad.
5 O wirfodd ei ewyllys fe'n rhagordeiniodd i gael ein mabwysiadu yn blant iddo'i hun trwy Iesu Grist,
6 er clod i'w ras gogoneddus, ei rad rodd i ni yn yr Anwylyd.
7 Ynddo ef y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed, sef maddeuant ein camweddau; dyma fesur cyfoeth y gras
8 a roddodd mor hael i ni, ynghyd â phob doethineb a dirnadaeth.
9 Hysbysodd i ni ddirgelwch ei ewyllys, yn unol â'r bwriad a arfaethodd yng Nghrist
10 yng nghynllun cyflawniad yr amseroedd, sef dwyn yr holl greadigaeth i undod yng Nghrist, gan gynnwys pob peth yn y nefoedd ac ar y ddaear.