8 Ac y mae'r Ysgrythur, wrth ragweld mai trwy ffydd y byddai Duw yn cyfiawnhau'r Cenhedloedd, wedi pregethu'r Efengyl ymlaen llaw wrth Abraham fel hyn: “Bendithir yr holl genhedloedd ynot ti.”
9 Am hynny, y mae pobl ffydd yn cael eu bendithio ynghyd ag Abraham, un llawn ffydd.
10 Oherwydd y mae pawb sy'n dibynnu ar gadw gofynion cyfraith dan felltith, achos y mae'n ysgrifenedig: “Melltith ar bob un nad yw'n cadw at bob peth sy'n ysgrifenedig yn llyfr y Gyfraith, a'i wneud!”
11 Y mae'n amlwg na chaiff neb ei gyfiawnhau gerbron Duw ar dir cyfraith, oherwydd, “Y sawl sydd trwy ffydd yn gyfiawn a gaiff fyw.”
12 Eithr nid “trwy ffydd” yw egwyddor y Gyfraith; dweud y mae hi yn hytrach, “Y sawl sy'n cadw ei gofynion a gaiff fyw trwyddynt hwy.”
13 Prynodd Crist ryddid i ni oddi wrth felltith y Gyfraith pan ddaeth, er ein mwyn, yn wrthrych melltith, oherwydd y mae'n ysgrifenedig: “Melltith ar bob un a grogir ar bren!”
14 Y bwriad oedd cael bendith Abraham i ymledu i'r Cenhedloedd yng Nghrist Iesu, er mwyn i ni dderbyn, trwy ffydd, yr Ysbryd a addawyd.