48 Gofynnodd Nathanael iddo, “Sut yr wyt yn f'adnabod i?” Atebodd Iesu ef: “Gwelais di cyn i Philip alw arnat, pan oeddit dan y ffigysbren.”
49 “Rabbi,” meddai Nathanael wrtho, “ti yw Mab Duw, ti yw Brenin Israel.”
50 Atebodd Iesu ef: “A wyt yn credu oherwydd i mi ddweud wrthyt fy mod wedi dy weld dan y ffigysbren? Cei weld pethau mwy na hyn.”
51 Ac meddai wrtho, “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, cewch weld y nef wedi agor, ac angylion Duw yn esgyn ac yn disgyn ar Fab y Dyn.”