8 “Rabbi,” meddai'r disgyblion wrtho, “gynnau yr oedd yr Iddewon yn ceisio dy labyddio. Sut y gelli fynd yn ôl yno?”
9 Atebodd Iesu: “Onid oes deuddeg awr mewn diwrnod? Os yw rhywun yn cerdded yng ngolau dydd, nid yw'n baglu, oherwydd y mae'n gweld golau'r byd hwn.
10 Ond os yw rhywun yn cerdded yn y nos, y mae'n baglu, am nad oes golau ganddo.”
11 Ar ôl dweud hyn meddai wrthynt, “Y mae ein cyfaill Lasarus yn huno, ond yr wyf yn mynd yno i'w ddeffro.”
12 Dywedodd y disgyblion wrtho, “Arglwydd, os yw'n huno fe gaiff ei wella.”
13 Ond at ei farwolaeth ef yr oedd Iesu wedi cyfeirio, a hwythau'n meddwl mai siarad am hun cwsg yr oedd.
14 Felly dywedodd Iesu wrthynt yn blaen, “Y mae Lasarus wedi marw.