25 “Yr wyf wedi dweud hyn wrthych tra wyf yn aros gyda chwi.
26 Ond bydd yr Eiriolwr, yr Ysbryd Glân, a anfona'r Tad yn fy enw i, yn dysgu popeth ichwi, ac yn dwyn ar gof ichwi y cwbl a ddywedais i wrthych.
27 Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; yr wyf yn rhoi i chwi fy nhangnefedd i fy hun. Nid fel y mae'r byd yn rhoi yr wyf fi'n rhoi i chwi. Peidiwch â gadael i ddim gynhyrfu'ch calon, a pheidiwch ag ofni.
28 Clywsoch beth a ddywedais i wrthych, ‘Yr wyf fi yn ymadael â chwi, ac fe ddof atoch chwi.’ Pe baech yn fy ngharu i, byddech yn llawenhau fy mod yn mynd at y Tad, oherwydd y mae'r Tad yn fwy na mi.
29 Yr wyf fi wedi dweud wrthych yn awr, cyn i'r peth ddigwydd, er mwyn ichwi gredu pan ddigwydd.
30 Ni byddaf yn siarad llawer gyda chwi eto, oherwydd y mae tywysog y byd hwn yn dod. Nid oes ganddo ddim gafael arnaf fi,
31 ond rhaid i'r byd wybod fy mod i'n caru'r Tad ac yn gwneud yn union fel y mae'r Tad wedi gorchymyn imi. Codwch, ac awn oddi yma.