14 Yr wyf fi wedi rhoi iddynt dy air di, ac y mae'r byd wedi eu casáu hwy, am nad ydynt yn perthyn i'r byd, fel nad wyf finnau'n perthyn i'r byd.
15 Nid wyf yn gweddïo ar i ti eu cymryd allan o'r byd, ond ar i ti eu cadw'n ddiogel rhag yr Un drwg.
16 Nid ydynt yn perthyn i'r byd, fel nad wyf finnau'n perthyn i'r byd.
17 Cysegra hwy yn y gwirionedd. Dy air di yw'r gwirionedd.
18 Fel yr anfonaist ti fi i'r byd, yr wyf fi'n eu hanfon hwy i'r byd.
19 Ac er eu mwyn hwy yr wyf fi'n fy nghysegru fy hun, er mwyn iddynt hwythau fod wedi eu cysegru yn y gwirionedd.
20 “Ond nid dros y rhain yn unig yr wyf yn gweddïo, ond hefyd dros y rhai fydd yn credu ynof fi trwy eu gair hwy.