30 Yna, wedi iddo gymryd y gwin, dywedodd Iesu, “Gorffennwyd.” Gwyrodd ei ben, a rhoi i fyny ei ysbryd.
31 Yna, gan ei bod yn ddydd Paratoad, gofynnodd yr Iddewon i Pilat am gael torri coesau'r rhai a groeshoeliwyd, a chymryd y cyrff i lawr, rhag iddynt ddal i fod ar y groes ar y Saboth, oherwydd yr oedd y Saboth hwnnw'n uchel-ŵyl.
32 Felly daeth y milwyr, a thorri coesau'r naill a'r llall a groeshoeliwyd gyda Iesu.
33 Ond pan ddaethant at Iesu a gweld ei fod ef eisoes yn farw, ni thorasant ei goesau.
34 Ond fe drywanodd un o'r milwyr ei ystlys ef â phicell, ac ar unwaith dyma waed a dŵr yn llifo allan.
35 Y mae'r un a welodd y peth wedi dwyn tystiolaeth i hyn, ac y mae ei dystiolaeth ef yn wir. Y mae hwnnw'n gwybod ei fod yn dweud y gwir, a gallwch chwithau felly gredu.
36 Digwyddodd hyn er mwyn i'r Ysgrythur gael ei chyflawni: “Ni thorrir asgwrn ohono.”