11 Atebodd yntau hwy, “Y dyn hwnnw a'm gwellodd a ddywedodd wrthyf, ‘Cymer dy fatras a cherdda.’ ”
12 Gofynasant iddo, “Pwy yw'r dyn a ddywedodd wrthyt, ‘Cymer dy fatras a cherdda’?”
13 Ond nid oedd y dyn a iachawyd yn gwybod pwy oedd ef, oherwydd yr oedd Iesu wedi troi oddi yno, am fod tyrfa yn y lle.
14 Maes o law daeth Iesu o hyd i'r dyn yn y deml, ac meddai wrtho, “Dyma ti wedi gwella. Paid â phechu mwyach, rhag i rywbeth gwaeth ddigwydd iti.”
15 Aeth y dyn i ffwrdd a dywedodd wrth yr Iddewon mai Iesu oedd y dyn a'i gwellodd.
16 A dyna pam y dechreuodd yr Iddewon erlid Iesu, am ei fod yn gwneud y pethau hyn ar y Saboth.
17 Ond atebodd Iesu hwy, “Y mae fy Nhad yn dal i weithio hyd y foment hon, ac yr wyf finnau'n gweithio hefyd.”