1 Yr oedd ef yn gweddïo mewn rhyw fan, ac wedi iddo orffen dywedodd un o'i ddisgyblion wrtho, “Arglwydd, dysg i ni weddïo, fel y dysgodd Ioan yntau i'w ddisgyblion ef.”
2 Ac meddai wrthynt, “Pan weddïwch, dywedwch:“ ‘Dad, sancteiddier dy enw;deled dy deyrnas;
3 dyro inni o ddydd i ddydd ein bara beunyddiol;
4 a maddau inni ein pechodau,oherwydd yr ydym ninnau yn maddau i bob un sy'n troseddu yn ein herbyn;a phaid â'n dwyn i brawf.’ ”
5 Yna meddai wrthynt, “Pe bai un ohonoch yn mynd at gyfaill ganol nos ac yn dweud wrtho, ‘Gyfaill, rho fenthyg tair torth imi,
6 oherwydd y mae cyfaill imi wedi cyrraedd acw ar ôl taith, ac nid oes gennyf ddim i'w osod o'i flaen’;
7 a phe bai yntau yn ateb o'r tu mewn, ‘Paid â'm blino; y mae'r drws erbyn hyn wedi ei folltio, a'm plant gyda mi yn y gwely; ni allaf godi i roi dim iti’,