1 Aeth i mewn i dŷ un o arweinwyr y Phariseaid ar y Saboth am bryd o fwyd; ac yr oeddent hwy â'u llygaid arno.
2 Ac yno ger ei fron yr oedd dyn â'r dropsi arno.
3 A llefarodd Iesu wrth athrawon y Gyfraith a'r Phariseaid, gan ddweud, “A yw'n gyfreithlon iacháu ar y Saboth, ai nid yw?”
4 Ond ni ddywedasant hwy ddim. Yna cymerodd y claf a'i iacháu a'i anfon ymaith.
5 Ac meddai wrthynt, “Pe bai mab neu ych unrhyw un ohonoch yn syrthio i bydew, oni fyddech yn ei dynnu allan ar unwaith, hyd yn oed ar y dydd Saboth?”
6 Ni allent gynnig unrhyw ateb i hyn.
7 Yna adroddodd ddameg wrth y gwesteion, wrth iddo sylwi sut yr oeddent yn dewis y seddau anrhydedd: