8 “Pan wahoddir di gan rywun i wledd briodas, paid â chymryd y lle anrhydedd, rhag ofn ei fod wedi gwahodd rhywun amlycach na thi;
9 oherwydd os felly, daw'r sawl a'ch gwahoddodd chwi'ch dau a dweud wrthyt, ‘Rho dy le i hwn’, ac yna byddi dithau mewn cywilydd yn cymryd y lle isaf.
10 Yn hytrach, pan wahoddir di, dos a chymer y lle isaf, fel pan ddaw'r gwahoddwr y dywed wrthyt, ‘Gyfaill, tyrd yn uwch’; yna dangosir parch iti yng ngŵydd dy holl gyd-westeion.
11 Oherwydd darostyngir pob un sy'n ei ddyrchafu ei hun, a dyrchefir pob un sy'n ei ddarostwng ei hun.”
12 Meddai hefyd wrth ei wahoddwr, “Pan fyddi'n trefnu cinio neu swper, paid â gwahodd dy gyfeillion na'th frodyr na'th berthnasau na'th gymdogion cyfoethog, rhag ofn iddynt hwythau yn eu tro dy wahodd di, ac iti gael dy ad-dalu.
13 Pan fyddi'n trefnu gwledd, gwahodd yn hytrach y tlodion, yr anafusion, y cloffion, a'r deillion;
14 a gwyn fydd dy fyd, am nad oes ganddynt fodd i dalu'n ôl iti; cei dy dalu'n ôl yn atgyfodiad y cyfiawn.”