23 a methasant gael ei gorff, ond dychwelsant gan daeru eu bod wedi gweld angylion yn ymddangos, a bod y rheini'n dweud ei fod ef yn fyw.
24 Aeth rhai o'n cwmni allan at y bedd, a'i gael yn union fel y dywedodd y gwragedd, ond ni welsant mohono ef.”
25 Meddai Iesu wrthynt, “Mor ddiddeall ydych, ac mor araf yw eich calonnau i gredu'r cwbl a lefarodd y proffwydi!
26 Onid oedd yn rhaid i'r Meseia ddioddef y pethau hyn, a mynd i mewn i'w ogoniant?”
27 A chan ddechrau gyda Moses a'r holl broffwydi, dehonglodd iddynt y pethau a ysgrifennwyd amdano ef ei hun yn yr holl Ysgrythurau.
28 Wedi iddynt nesáu at y pentref yr oeddent ar eu ffordd iddo, cymerodd ef arno ei fod yn mynd ymhellach.
29 Ond meddent wrtho, gan bwyso arno, “Aros gyda ni, oherwydd y mae hi'n nosi, a'r dydd yn dirwyn i ben.” Yna aeth i mewn i aros gyda hwy.