14 Gorchmynnodd Iesu iddo beidio â dweud wrth neb: “Dos ymaith,” meddai, “a dangos dy hun i'r offeiriad, ac offryma dros dy lanhad fel y gorchmynnodd Moses, yn dystiolaeth gyhoeddus.”
15 Ond yr oedd y sôn amdano yn ymledu fwyfwy, ac yr oedd tyrfaoedd lawer yn ymgynnull i wrando ac i gael eu hiacháu oddi wrth eu clefydau.
16 Ond byddai ef yn encilio i'r mannau unig ac yn gweddïo.
17 Un diwrnod yr oedd ef yn dysgu, ac yn eistedd yno yr oedd Phariseaid ac athrawon y Gyfraith oedd wedi dod o bob pentref yng Ngalilea ac o Jwdea ac o Jerwsalem; ac yr oedd nerth yr Arglwydd gydag ef i iacháu.
18 A dyma wŷr yn cario ar wely ddyn wedi ei barlysu; ceisio yr oeddent ddod ag ef i mewn a'i osod o flaen Iesu.
19 Wedi methu cael ffordd i ddod ag ef i mewn oherwydd y dyrfa, dringasant ar y to a'i ollwng drwy'r priddlechi, ynghyd â'i wely, i'r canol o flaen Iesu.
20 Wrth weld eu ffydd hwy dywedodd ef, “Ddyn, y mae dy bechodau wedi eu maddau iti.”