26 Daeth syndod dros bawb a dechreusant ogoneddu Duw; llanwyd hwy ag ofn, ac meddent, “Yr ydym wedi gweld pethau anhygoel heddiw.”
27 Wedi hyn aeth allan ac edrychodd ar gasglwr trethi o'r enw Lefi, a oedd yn eistedd wrth y dollfa, ac meddai wrtho, “Canlyn fi.”
28 A chan adael popeth cododd yntau a'i ganlyn.
29 Yna gwnaeth Lefi wledd fawr iddo yn ei dŷ; ac yr oedd tyrfa niferus o gasglwyr trethi ac eraill yn cydfwyta gyda hwy.
30 Yr oedd y Phariseaid a'u hysgrifenyddion yn grwgnach wrth ei ddisgyblion gan ddweud, “Pam yr ydych yn bwyta ac yn yfed gyda chasglwyr trethi a phechaduriaid?”
31 Atebodd Iesu hwy, “Nid ar rai iach, ond ar y cleifion y mae angen meddyg;
32 i alw pechaduriaid i edifeirwch, nid rhai cyfiawn, yr wyf fi wedi dod.”