32 i alw pechaduriaid i edifeirwch, nid rhai cyfiawn, yr wyf fi wedi dod.”
33 Ond meddent hwythau wrtho, “Y mae disgyblion Ioan yn ymprydio yn aml ac yn adrodd eu gweddïau, a rhai'r Phariseaid yr un modd, ond bwyta ac yfed y mae dy ddisgyblion di.”
34 Meddai Iesu wrthynt, “A allwch wneud i westeion priodas ymprydio tra bydd y priodfab gyda hwy?
35 Ond fe ddaw dyddiau pan ddygir y priodfab oddi wrthynt; yna fe ymprydiant yn y dyddiau hynny.”
36 Adroddodd hefyd ddameg wrthynt: “Ni fydd neb yn rhwygo clwt allan o ddilledyn newydd a'i roi ar hen ddilledyn; os gwna, nid yn unig fe fydd yn rhwygo'r newydd, ond ni fydd y clwt o'r newydd yn gweddu i'r hen.
37 Ac ni fydd neb yn tywallt gwin newydd i hen grwyn; os gwna, bydd y gwin newydd yn rhwygo'r crwyn, a heblaw colli'r gwin fe ddifethir y crwyn.
38 I grwyn newydd y mae tywallt gwin newydd.