42 Codwch ac awn. Dyma fy mradychwr yn agosáu.”
43 Ac yna, tra oedd yn dal i siarad, dyma Jwdas, un o'r Deuddeg, yn cyrraedd, a chydag ef dyrfa yn dwyn cleddyfau a phastynau, wedi eu hanfon gan y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion a'r henuriaid.
44 Yr oedd ei fradychwr wedi rhoi arwydd iddynt gan ddweud, “Yr un a gusanaf yw'r dyn; daliwch ef a mynd ag ef ymaith yn ddiogel.”
45 Ac yn union wedi cyrraedd, aeth ato ef a dweud, “Rabbi,” a chusanodd ef.
46 Rhoesant hwythau eu dwylo arno a'i ddal.
47 Tynnodd rhywun o blith y rhai oedd yn sefyll gerllaw gleddyf, a thrawodd was yr archoffeiriad a thorri ei glust i ffwrdd.
48 A dywedodd Iesu wrthynt, “Ai fel at leidr, â chleddyfau a phastynau, y daethoch allan i'm dal i?