1 Yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad Jehoiacim brenin Jwda, y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon i Jerwsalem, ac a warchaeodd arni.
2 A'r Arglwydd a roddes i'w law ef Jehoiacim brenin Jwda, a rhan o lestri tŷ Dduw; yntau a'u dug hwynt i wlad Sinar, i dŷ ei dduw ef; ac i drysordy ei dduw y dug efe y llestri.
3 A dywedodd y brenin wrth Aspenas ei ben‐ystafellydd, am ddwyn o feibion Israel, ac o'r had brenhinol, ac o'r tywysogion,
4 Fechgyn y rhai ni byddai ynddynt ddim gwrthuni, eithr yn dda yr olwg, a deallgar ym mhob doethineb, ac yn gwybod gwybodaeth, ac yn deall cyfarwyddyd, a'r rhai y byddai grym ynddynt i sefyll yn llys y brenin, i'w dysgu ar lyfr ac yn iaith y Caldeaid.
5 A'r brenin a ddognodd iddynt ran beunydd o fwyd y brenin, ac o'r gwin a yfai efe; felly i'w maethu hwynt dair blynedd, fel y safent ar ôl hynny gerbron y brenin.
6 Ac yr ydoedd yn eu plith hwynt o feibion Jwda, Daniel, Hananeia, Misael, ac Asareia: