11 Yna y dywedodd Daniel wrth Melsar, yr hwn a osodasai y pen‐ystafellydd ar Daniel, Hananeia, Misael, ac Asareia,
12 Prawf, atolwg, dy weision ddeg diwrnod, a rhoddant i ni ffa i'w bwyta, a dwfr i'w yfed.
13 Yna edrycher ger dy fron di ein gwedd ni, a gwedd y bechgyn sydd yn bwyta rhan o fwyd y brenin: ac fel y gwelych, gwna â'th weision.
14 Ac efe a wrandawodd arnynt yn y peth hyn, ac a'u profodd hwynt ddeg o ddyddiau.
15 Ac ymhen y deng niwrnod y gwelid eu gwedd hwynt yn decach, ac yn dewach o gnawd, na'r holl fechgyn oedd yn bwyta rhan o fwyd y brenin.
16 Felly Melsar a gymerodd ymaith ran eu bwyd hwynt, a'r gwin a yfent; ac a roddes iddynt ffa.
17 A'r bechgyn hynny ill pedwar, Duw a roddes iddynt wybodaeth a deall ym mhob dysg a doethineb: a Daniel a hyfforddiodd efe ym mhob gweledigaeth a breuddwydion.