18 Ac ymhen y dyddiau y dywedasai y brenin am eu dwyn hwynt i mewn, yna y pen‐ystafellydd a'u dug hwynt gerbron Nebuchodonosor.
19 A'r brenin a chwedleuodd â hwynt; ac ni chafwyd ohonynt oll un fel Daniel, Hananeia, Misael, ac Asareia: am hynny y safasant hwy gerbron y brenin.
20 Ac ym mhob rhyw ddoethineb a deall a'r a ofynnai y brenin iddynt, efe a'u cafodd hwynt yn ddeg gwell na'r holl ddewiniaid a'r astronomyddion oedd o fewn ei holl frenhiniaeth ef.
21 A bu Daniel hyd y flwyddyn gyntaf i'r brenin Cyrus.