7 A'r pen‐ystafellydd a osododd arnynt enwau: canys ar Daniel y gosododd efe Beltesassar; ac ar Hananeia, Sadrach; ac ar Misael, Mesach; ac ar Asareia, Abednego.
8 A Daniel a roddes ei fryd nad ymhalogai efe trwy ran o fwyd y brenin, na thrwy y gwin a yfai efe: am hynny efe a ddymunodd ar y pen‐ystafellydd, na byddai raid iddo ymhalogi.
9 A Duw a roddes Daniel mewn ffafr a thiriondeb gyda'r pen‐ystafellydd.
10 A'r pen‐ystafellydd a ddywedodd wrth Daniel, Ofni yr ydwyf fi fy arglwydd y brenin, yr hwn a osododd eich bwyd chwi a'ch diod chwi: oherwydd paham y gwelai efe eich wynebau yn gulach na'r bechgyn sydd fel chwithau? felly y parech fy mhen yn ddyledus i'r brenin.
11 Yna y dywedodd Daniel wrth Melsar, yr hwn a osodasai y pen‐ystafellydd ar Daniel, Hananeia, Misael, ac Asareia,
12 Prawf, atolwg, dy weision ddeg diwrnod, a rhoddant i ni ffa i'w bwyta, a dwfr i'w yfed.
13 Yna edrycher ger dy fron di ein gwedd ni, a gwedd y bechgyn sydd yn bwyta rhan o fwyd y brenin: ac fel y gwelych, gwna â'th weision.