10 Llawer a burir, ac a gennir, ac a brofir; eithr y rhai drygionus a wnânt ddrygioni: ac ni ddeall yr un o'r rhai drygionus; ond y rhai doethion a ddeallant.
11 Ac o'r amser y tynner ymaith y gwastadol aberth, ac y gosoder i fyny y ffieidd‐dra anrheithiol, y bydd mil dau cant a deg a phedwar ugain o ddyddiau.
12 Gwyn ei fyd a ddisgwylio, ac a ddêl hyd y mil tri chant a phymtheg ar hugain o ddyddiau.
13 Dos dithau hyd y diwedd: canys gorffwysi, a sefi yn dy ran yn niwedd y dyddiau.