1 Ac yn yr ail flwyddyn o deyrnasiad Nebuchodonosor, y breuddwydiodd Nebuchodonosor freuddwydion, a thrallodwyd ei ysbryd ef, a'i gwsg a dorrodd oddi wrtho.
2 A'r brenin a archodd alw am y dewiniaid, ac am yr astronomyddion, ac am yr hudolion, ac am y Caldeaid, i fynegi i'r brenin ei freuddwydion: a hwy a ddaethant ac a safasant gerbron y brenin.
3 A'r brenin a ddywedodd wrthynt, Breuddwydiais freuddwyd, a thrallodwyd fy ysbryd am wybod y breuddwyd.
4 Yna y Caldeaid a lefarasant wrth y brenin yn Syriaeg, O frenin, bydd fyw yn dragywydd: adrodd dy freuddwyd i'th weision, a mynegwn y dehongliad.
5 Atebodd y brenin a dywedodd wrth y Caldeaid, Aeth y peth oddi wrthyf: oni fynegwch y breuddwyd i mi, a'i ddehongliad, gwneir chwi yn ddrylliau, a'ch tai a osodir yn domen.
6 Ond os y breuddwyd a'i ddehongliad a ddangoswch, cewch roddion, a gwobrau, ac anrhydedd mawr o'm blaen i: am hynny dangoswch y breuddwyd, a'i ddehongliad.