10 Y Caldeaid a atebasant o flaen y brenin, ac a ddywedasant, Nid oes dyn ar y ddaear a ddichon ddangos yr hyn y mae y brenin yn ei ofyn; ac ni cheisiodd un brenin, na phennaeth, na llywydd, y fath beth â hwn gan un dewin, nac astronomydd, na Chaldead.
11 Canys dieithr yw y peth a gais y brenin, ac nid oes neb arall a fedr ei ddangos o flaen y brenin, ond y duwiau, y rhai nid yw eu trigfa gyda chnawd.
12 O achos hyn y digiodd y brenin ac y creulonodd yn ddirfawr, ac a orchmynnodd ddifetha holl ddoethion Babilon.
13 Yna yr aeth y gyfraith allan am ladd y doethion; ceisiasant hefyd Daniel a'i gyfeillion i'w lladd.
14 Yna yr atebodd Daniel trwy gyngor a doethineb i Arioch, pen‐distain y brenin, yr hwn a aethai allan i ladd doethion Babilon:
15 Efe a lefarodd ac a ddywedodd wrth Arioch, distain y brenin, Paham y mae y gyfraith yn myned ar y fath frys oddi wrth y brenin? Yna Arioch a fynegodd y peth i Daniel.
16 Yna Daniel a aeth i mewn, ac a ymbiliodd â'r brenin am roddi iddo amser, ac y dangosai efe y dehongliad i'r brenin.