13 Yna yr aeth y gyfraith allan am ladd y doethion; ceisiasant hefyd Daniel a'i gyfeillion i'w lladd.
14 Yna yr atebodd Daniel trwy gyngor a doethineb i Arioch, pen‐distain y brenin, yr hwn a aethai allan i ladd doethion Babilon:
15 Efe a lefarodd ac a ddywedodd wrth Arioch, distain y brenin, Paham y mae y gyfraith yn myned ar y fath frys oddi wrth y brenin? Yna Arioch a fynegodd y peth i Daniel.
16 Yna Daniel a aeth i mewn, ac a ymbiliodd â'r brenin am roddi iddo amser, ac y dangosai efe y dehongliad i'r brenin.
17 Yna yr aeth Daniel i'w dŷ, ac a fynegodd y peth i'w gyfeillion, Hananeia, Misael, ac Asareia;
18 Fel y ceisient drugareddau gan Dduw y nefoedd yn achos y dirgelwch hwn; fel na ddifethid Daniel a'i gyfeillion gyda'r rhan arall o ddoethion Babilon.
19 Yna y datguddiwyd y dirgelwch i Daniel mewn gweledigaeth nos: yna Daniel a fendithiodd Dduw y nefoedd.