16 Yna Daniel a aeth i mewn, ac a ymbiliodd â'r brenin am roddi iddo amser, ac y dangosai efe y dehongliad i'r brenin.
17 Yna yr aeth Daniel i'w dŷ, ac a fynegodd y peth i'w gyfeillion, Hananeia, Misael, ac Asareia;
18 Fel y ceisient drugareddau gan Dduw y nefoedd yn achos y dirgelwch hwn; fel na ddifethid Daniel a'i gyfeillion gyda'r rhan arall o ddoethion Babilon.
19 Yna y datguddiwyd y dirgelwch i Daniel mewn gweledigaeth nos: yna Daniel a fendithiodd Dduw y nefoedd.
20 Atebodd Daniel a dywedodd, Bendigedig fyddo enw Duw o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb: canys doethineb a nerth ydynt eiddo ef:
21 Ac efe sydd yn newid amserau, a thymhorau: efe sydd yn symud brenhinoedd, ac yn gosod brenhinoedd: efe sydd yn rhoddi doethineb i'r doethion, a gwybodaeth i'r rhai a fedrant ddeall:
22 Efe sydd yn datguddio y pethau dyfnion a chuddiedig: efe a ŵyr beth sydd yn y tywyllwch, a chydag ef y mae y goleuni yn trigo.