18 Fel y ceisient drugareddau gan Dduw y nefoedd yn achos y dirgelwch hwn; fel na ddifethid Daniel a'i gyfeillion gyda'r rhan arall o ddoethion Babilon.
19 Yna y datguddiwyd y dirgelwch i Daniel mewn gweledigaeth nos: yna Daniel a fendithiodd Dduw y nefoedd.
20 Atebodd Daniel a dywedodd, Bendigedig fyddo enw Duw o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb: canys doethineb a nerth ydynt eiddo ef:
21 Ac efe sydd yn newid amserau, a thymhorau: efe sydd yn symud brenhinoedd, ac yn gosod brenhinoedd: efe sydd yn rhoddi doethineb i'r doethion, a gwybodaeth i'r rhai a fedrant ddeall:
22 Efe sydd yn datguddio y pethau dyfnion a chuddiedig: efe a ŵyr beth sydd yn y tywyllwch, a chydag ef y mae y goleuni yn trigo.
23 Tydi Dduw fy nhadau yr ydwyf fi yn diolch iddo, ac yn ei foliannu, oherwydd rhoddi ohonot ddoethineb a nerth i mi, a pheri i mi wybod yn awr yr hyn a geisiasom gennyt: canys gwnaethost i ni wybod yr hyn a ofynnodd y brenin.
24 Oherwydd hyn yr aeth Daniel at Arioch, yr hwn a osodasai y brenin i ddifetha doethion Babilon: efe a aeth, ac a ddywedodd wrtho fel hyn; Na ddifetha ddoethion Babilon; dwg fi o flaen y brenin, a mi a ddangosaf i'r brenin y dehongliad.