2 A'r brenin a archodd alw am y dewiniaid, ac am yr astronomyddion, ac am yr hudolion, ac am y Caldeaid, i fynegi i'r brenin ei freuddwydion: a hwy a ddaethant ac a safasant gerbron y brenin.
3 A'r brenin a ddywedodd wrthynt, Breuddwydiais freuddwyd, a thrallodwyd fy ysbryd am wybod y breuddwyd.
4 Yna y Caldeaid a lefarasant wrth y brenin yn Syriaeg, O frenin, bydd fyw yn dragywydd: adrodd dy freuddwyd i'th weision, a mynegwn y dehongliad.
5 Atebodd y brenin a dywedodd wrth y Caldeaid, Aeth y peth oddi wrthyf: oni fynegwch y breuddwyd i mi, a'i ddehongliad, gwneir chwi yn ddrylliau, a'ch tai a osodir yn domen.
6 Ond os y breuddwyd a'i ddehongliad a ddangoswch, cewch roddion, a gwobrau, ac anrhydedd mawr o'm blaen i: am hynny dangoswch y breuddwyd, a'i ddehongliad.
7 Atebasant eilwaith a dywedasant, Dyweded y brenin y breuddwyd i'w weision, ac ni a ddangoswn ei ddehongliad ef.
8 Atebodd y brenin a dywedodd, Mi a wn yn hysbys mai oedi yr amser yr ydych chwi; canys gwelwch fyned y peth oddi wrthyf.