32 Pen y ddelw hon ydoedd o aur da, ei dwyfron a'i breichiau o arian, ei bol a'i morddwydydd o bres,
33 Ei choesau o haearn, ei thraed oedd beth ohonynt o haearn, a pheth ohonynt o bridd.
34 Edrych yr oeddit hyd oni thorrwyd allan garreg, nid trwy waith dwylo, a hi a drawodd y ddelw ar ei thraed o haearn a phridd, ac a'u maluriodd hwynt.
35 Yna yr haearn, y pridd, y pres, yr arian, a'r aur, a gydfaluriasant, ac oeddynt fel mân us yn dyfod o'r lloriau dyrnu haf; a'r gwynt a'u dug hwynt ymaith, ac ni chaed lle iddynt; a'r garreg yr hon a drawodd y ddelw a aeth yn fynydd mawr, ac a lanwodd yr holl ddaear.
36 Dyma y breuddwyd: dywedwn hefyd ei ddehongliad o flaen y brenin.
37 Ti, frenin, wyt frenin brenhinoedd: canys Duw y nefoedd a roddodd i ti frenhiniaeth, gallu, a nerth, a gogoniant.
38 A pha le bynnag y preswylia plant dynion, efe a roddes dan dy law fwystfilod y maes, ac ehediaid y nefoedd, ac a'th osododd di yn arglwydd arnynt oll: ti yw y pen aur hwnnw.