39 Ac ar dy ôl di y cyfyd brenhiniaeth arall is na thi, a thrydedd frenhiniaeth arall o bres, yr hon a lywodraetha ar yr holl ddaear.
40 Bydd hefyd y bedwaredd frenhiniaeth yn gref fel haearn: canys yr haearn a ddryllia, ac a ddofa bob peth: ac fel haearn, yr hwn a ddryllia bob peth, y maluria ac y dryllia hi.
41 A lle y gwelaist y traed a'r bysedd, peth ohonynt o bridd crochenydd, a pheth ohonynt o haearn, brenhiniaeth ranedig fydd; a bydd ynddi beth o gryfder haearn, oherwydd gweled ohonot haearn wedi ei gymysgu â phridd cleilyd.
42 Ac fel yr ydoedd bysedd y traed, peth o haearn, a pheth o bridd; felly y bydd y frenhiniaeth, o ran yn gref, ac o ran yn frau.
43 A lle y gwelaist haearn wedi ei gymysgu â phridd cleilyd, ymgymysgant â had dyn; ond ni lynant y naill wrth y llall, megis nad ymgymysga haearn â phridd.
44 Ac yn nyddiau y brenhinoedd hyn, y cyfyd Duw y nefoedd frenhiniaeth, yr hon ni ddistrywir byth: a'r frenhiniaeth ni adewir i bobl eraill; ond hi a faluria, ac a dreulia yr holl freniniaethau hyn, a hi a saif yn dragywydd.
45 Lle y gwelaist dorri carreg o'r mynydd, yr hon ni thorrwyd â llaw, a malurio ohoni yr haearn, y pres, y pridd, yr arian, a'r aur; hysbysodd y Duw mawr i'r brenin beth a fydd wedi hyn: felly y breuddwyd sydd wir, a'i ddehongliad yn ffyddlon.