8 Atebodd y brenin a dywedodd, Mi a wn yn hysbys mai oedi yr amser yr ydych chwi; canys gwelwch fyned y peth oddi wrthyf.
9 Ond oni wnewch i mi wybod y breuddwyd, un gyfraith fydd i chwi: canys gair celwyddog a llygredig a ddarparasoch ei ddywedyd o'm blaen, nes newid yr amser: am hynny dywedwch i mi y breuddwyd, a mi a gaf wybod y medrwch ddangos i mi ei ddehongliad ef.
10 Y Caldeaid a atebasant o flaen y brenin, ac a ddywedasant, Nid oes dyn ar y ddaear a ddichon ddangos yr hyn y mae y brenin yn ei ofyn; ac ni cheisiodd un brenin, na phennaeth, na llywydd, y fath beth â hwn gan un dewin, nac astronomydd, na Chaldead.
11 Canys dieithr yw y peth a gais y brenin, ac nid oes neb arall a fedr ei ddangos o flaen y brenin, ond y duwiau, y rhai nid yw eu trigfa gyda chnawd.
12 O achos hyn y digiodd y brenin ac y creulonodd yn ddirfawr, ac a orchmynnodd ddifetha holl ddoethion Babilon.
13 Yna yr aeth y gyfraith allan am ladd y doethion; ceisiasant hefyd Daniel a'i gyfeillion i'w lladd.
14 Yna yr atebodd Daniel trwy gyngor a doethineb i Arioch, pen‐distain y brenin, yr hwn a aethai allan i ladd doethion Babilon: