21 A'i ddail yn deg, a'i ffrwyth yn aml, ac ymborth i bob peth ynddo; tan yr hwn y trigai bwystfilod y maes, ac y preswyliai adar y nefoedd yn ei ganghennau:
22 Ti, frenin, yw efe; tydi a dyfaist, ac a gryfheaist: canys dy fawredd a gynyddodd, ac a gyrhaeddodd hyd y nefoedd, a'th lywodraeth hyd eithaf y ddaear.
23 A lle y gwelodd y brenin wyliedydd a sanct yn disgyn o'r nefoedd, ac yn dywedyd, Torrwch y pren, a dinistriwch ef, er hynny gadewch foncyff ei wraidd ef yn y ddaear, mewn rhwym o haearn a phres, ymhlith gwellt y maes, a gwlycher ef â gwlith y nefoedd, a bydded ei ran gyda bwystfil y maes, hyd oni chyfnewidio saith amser arno ef:
24 Dyma y dehongliad, O frenin, a dyma ordinhad y Goruchaf, yr hwn sydd yn dyfod ar fy arglwydd frenin.
25 Canys gyrrant di oddi wrth ddynion, a chyda bwystfil y maes y bydd dy drigfa, â gwellt hefyd y'th borthant fel eidionau, ac a'th wlychant â gwlith y nefoedd, a saith amser a gyfnewidia arnat ti, hyd oni wypech mai y Goruchaf sydd yn llywodraethu ym mrenhiniaeth dynion, ac yn ei rhoddi i'r neb a fynno.
26 A lle y dywedasant am adael boncyff gwraidd y pren; dy frenhiniaeth fydd sicr i ti, wedi i ti wybod mai y nefoedd sydd yn llywodraethu.
27 Am hynny, frenin, bydded fodlon gennyt fy nghyngor, a thor ymaith dy bechodau trwy gyfiawnder, a'th anwireddau trwy drugarhau wrth drueiniaid, i edrych a fydd estyniad ar dy heddwch.