12 Oherwydd cael yn y Daniel hwnnw, yr hwn y rhoddes y brenin iddo enw Beltesassar, ysbryd rhagorol, a gwybodaeth a deall, deongl breuddwydion, ac egluro damhegion, a datod clymau: galwer Daniel yr awron, ac efe a ddengys y dehongliad.
13 Yna y ducpwyd Daniel o flaen y brenin: a llefarodd y brenin, a dywedodd wrth Daniel, Ai tydi yw Daniel, yr hwn wyt o feibion caethglud Jwda, y rhai a ddug y brenin fy nhad i o Jwda?
14 Myfi a glywais sôn amdanat, fod ysbryd y duwiau ynot, a chael ynot ti oleuni, a deall, a doethineb rhagorol.
15 Ac yr awr hon dygwyd y doethion, yr astronomyddion, o'm blaen, i ddarllen yr ysgrifen hon, ac i fynegi i mi ei dehongliad: ond ni fedrent ddangos dehongliad y peth.
16 Ac mi a glywais amdanat ti, y medri ddeongl deongliadau, a datod clymau; yr awr hon os medri ddarllen yr ysgrifen, a hysbysu i mi ei dehongliad, tydi a wisgir â phorffor, ac a gei gadwyn aur am dy wddf, ac a gei lywodraethu yn drydydd yn y deyrnas.
17 Yna yr atebodd Daniel, ac y dywedodd o flaen y brenin, Bydded dy roddion i ti, a dod dy anrhegion i arall; er hynny yr ysgrifen a ddarllenaf i'r brenin, a'r dehongliad a hysbysaf iddo.
18 O frenin, y Duw goruchaf a roddes i Nebuchodonosor dy dad di frenhiniaeth, a mawredd, a gogoniant, ac anrhydedd.