18 Yna yr aeth y brenin i'w lys, ac a fu y noson honno heb fwyd: ac ni adawodd ddwyn difyrrwch o'i flaen; ei gwsg hefyd a giliodd oddi wrtho.
19 Yna y cododd y brenin yn fore iawn ar y wawrddydd, ac a aeth ar frys at ffau y llewod.
20 A phan nesaodd efe at y ffau, efe a lefodd ar Daniel â llais trist. Llefarodd y brenin, a dywedodd wrth Daniel, Daniel, gwasanaethwr y Duw byw, a all dy Dduw di, yr hwn yr wyt yn ei wasanaethu yn wastad, dy gadw di rhag y llewod?
21 Yna y dywedodd Daniel wrth y brenin, O frenin, bydd fyw byth.
22 Fy Nuw a anfonodd ei angel, ac a gaeodd safnau y llewod, fel na wnaethant i mi niwed: oherwydd puredd a gaed ynof ger ei fron ef; a hefyd ni wneuthum niwed o'th flaen dithau, frenin.
23 Yna y brenin fu dda iawn ganddo o'i achos ef, ac a archodd gyfodi Daniel allan o'r ffau. Yna y codwyd Daniel o'r ffau; ac ni chaed niwed arno, oherwydd credu ohono yn ei Dduw.
24 Yna y gorchmynnodd y brenin, a hwy a ddygasant y gwŷr hynny a gyhuddasent Daniel, ac a'u bwriasant i ffau y llewod, hwy, a'u plant, a'u gwragedd; ac ni ddaethant i waelod y ffau hyd oni orchfygodd y llewod hwynt, a dryllio eu holl esgyrn.