21 Yna y dywedodd Daniel wrth y brenin, O frenin, bydd fyw byth.
22 Fy Nuw a anfonodd ei angel, ac a gaeodd safnau y llewod, fel na wnaethant i mi niwed: oherwydd puredd a gaed ynof ger ei fron ef; a hefyd ni wneuthum niwed o'th flaen dithau, frenin.
23 Yna y brenin fu dda iawn ganddo o'i achos ef, ac a archodd gyfodi Daniel allan o'r ffau. Yna y codwyd Daniel o'r ffau; ac ni chaed niwed arno, oherwydd credu ohono yn ei Dduw.
24 Yna y gorchmynnodd y brenin, a hwy a ddygasant y gwŷr hynny a gyhuddasent Daniel, ac a'u bwriasant i ffau y llewod, hwy, a'u plant, a'u gwragedd; ac ni ddaethant i waelod y ffau hyd oni orchfygodd y llewod hwynt, a dryllio eu holl esgyrn.
25 Yna yr ysgrifennodd y brenin Dareius at y bobloedd, at y cenhedloedd, a'r ieithoedd oll, y rhai oedd yn trigo yn yr holl ddaear; Heddwch a amlhaer i chwi.
26 Gennyf fi y gosodwyd cyfraith, ar fod trwy holl lywodraeth fy nheyrnas, i bawb grynu ac ofni rhag Duw Daniel: oherwydd efe sydd Dduw byw, ac yn parhau byth; a'i frenhiniaeth ef yw yr hon ni ddifethir, a'i lywodraeth fydd hyd y diwedd.
27 Y mae yn gwaredu ac yn achub, ac yn gwneuthur arwyddion a rhyfeddodau yn y nefoedd ac ar y ddaear; yr hwn a waredodd Daniel o feddiant y llewod.