7 Holl raglawiaid y deyrnas, y swyddogion, a'r tywysogion, y cynghoriaid, a'r dugiaid, a ymgyngorasant am osod deddf frenhinol, a chadarnhau gorchymyn, fod bwrw i ffau y llewod pwy bynnag a archai arch gan un Duw na dyn dros ddeng niwrnod ar hugain, ond gennyt ti, O frenin.
8 Yr awr hon, O frenin, sicrha y gorchymyn, a selia yr ysgrifen, fel nas newidier; yn ôl cyfraith y Mediaid a'r Persiaid, yr hon ni newidir.
9 Oherwydd hyn y seliodd y brenin Dareius yr ysgrifen a'r gorchymyn.
10 Yna Daniel, pan wybu selio yr ysgrifen, a aeth i'w dŷ, a'i ffenestri yn agored yn ei ystafell tua Jerwsalem; tair gwaith yn y dydd y gostyngai efe ar ei liniau, ac y gweddïai, ac y cyffesai o flaen ei Dduw, megis y gwnâi efe cyn hynny.
11 Yna y gwŷr hyn a ddaethant ynghyd, ac a gawsant Daniel yn gweddïo ac yn ymbil o flaen ei Dduw.
12 Yna y nesasant, ac y dywedasant o flaen y brenin am orchymyn y brenin; Oni seliaist ti orchymyn, mai i ffau y llewod y bwrid pa ddyn bynnag a ofynnai gan un Duw na dyn ddim dros ddeng niwrnod ar hugain, ond gennyt ti, O frenin? Atebodd y brenin, a dywedodd, Y mae y peth yn wir, yn ôl cyfraith y Mediaid a'r Persiaid, yr hon ni newidir.
13 Yna yr atebasant ac y dywedasant o flaen y brenin, Y Daniel, yr hwn sydd o feibion caethglud Jwda, ni wnaeth gyfrif ohonot ti, frenin, nac o'r gorchymyn a seliaist, eithr tair gwaith yn y dydd y mae yn gweddïo ei weddi.