17 Ac efe a ddaeth yn agos i'r lle y safwn; a phan ddaeth, mi a ddychrynais, ac a syrthiais ar fy wyneb: ac efe a ddywedodd wrthyf, Deall, fab dyn; oherwydd y weledigaeth fydd yn amser y diwedd.
18 A thra yr oedd efe yn llefaru wrthyf, syrthiais mewn trymgwsg i lawr ar fy wyneb: ac efe a gyffyrddodd â mi, ac a'm cyfododd yn fy sefyll.
19 Dywedodd hefyd, Wele fi yn hysbysu i ti yr hyn a fydd yn niwedd y dicter; canys ar yr amser gosodedig y bydd y diwedd.
20 Yr hwrdd deugorn a welaist, yw brenhinoedd Media a Phersia.
21 A'r bwch blewog yw brenin Groeg; a'r corn mawr, yr hwn sydd rhwng ei lygaid ef, dyna y brenin cyntaf.
22 Lle y torrwyd ef, ac y cyfododd pedwar yn ei le, pedair brenhiniaeth a gyfodant o'r un genedl, ond nid un nerth ag ef.
23 A thua diwedd eu brenhiniaeth hwynt, pan gyflawner y troseddwyr, y cyfyd brenin wyneb‐greulon, ac yn deall damhegion.