4 Gwelwn yr hwrdd yn cornio tua'r gorllewin, tua'r gogledd, a thua'r deau, fel na safai un bwystfil o'i flaen ef; ac nid oedd a achubai o'i law ef; ond efe a wnaeth yn ôl ei ewyllys ei hun, ac a aeth yn fawr.
5 Ac fel yr oeddwn yn ystyried, wele hefyd fwch geifr yn dyfod o'r gorllewin, ar hyd wyneb yr holl ddaear, ac heb gyffwrdd â'r ddaear; ac i'r bwch yr oedd corn hynod rhwng ei lygaid.
6 Ac efe a ddaeth hyd at yr hwrdd deugorn a welswn i yn sefyll wrth yr afon, ac efe a redodd ato ef yn angerdd ei nerth.
7 Gwelais ef hefyd yn dyfod hyd at yr hwrdd, ac efe a fu chwerw wrtho, ac a drawodd yr hwrdd, ac a dorrodd ei ddau gorn ef, ac nid oedd nerth yn yr hwrdd i sefyll o'i flaen ef, eithr efe a'i bwriodd ef i lawr, ac a'i sathrodd ef; ac nid oedd a allai achub yr hwrdd o'i law ef.
8 Am hynny y bwch geifr a aeth yn fawr iawn; ac wedi ei gryfhau, torrodd y corn mawr: a chododd pedwar o rai hynod yn ei le ef, tua phedwar gwynt y nefoedd.
9 Ac o un ohonynt y daeth allan gorn bychan, ac a dyfodd yn rhagorol, tua'r deau, a thua'r dwyrain, a thua'r hyfryd wlad.
10 Aeth yn fawr hefyd hyd lu y nefoedd, a bwriodd i lawr rai o'r llu, ac o'r sêr, ac a'u sathrodd hwynt.