9 Ac o un ohonynt y daeth allan gorn bychan, ac a dyfodd yn rhagorol, tua'r deau, a thua'r dwyrain, a thua'r hyfryd wlad.
10 Aeth yn fawr hefyd hyd lu y nefoedd, a bwriodd i lawr rai o'r llu, ac o'r sêr, ac a'u sathrodd hwynt.
11 Ymfawrygodd hefyd hyd at dywysog y llu, a dygwyd ymaith yr offrwm gwastadol oddi arno ef, a bwriwyd ymaith le ei gysegr ef.
12 A rhoddwyd iddo lu yn erbyn yr offrwm beunyddiol oherwydd camwedd, ac efe a fwriodd y gwirionedd i lawr; felly y gwnaeth, ac y llwyddodd.
13 Yna y clywais ryw sant yn llefaru, a dywedodd rhyw sant arall wrth y rhyw sant hwnnw oedd yn llefaru, Pa hyd y bydd y weledigaeth am yr offrwm gwastadol, a chamwedd anrhaith i roddi y cysegr a'r llu yn sathrfa?
14 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Hyd ddwy fil a thri chant o ddiwrnodiau: yna y purir y cysegr.
15 A phan welais i Daniel y weledigaeth, a cheisio ohonof y deall, yna wele, safodd ger fy mron megis rhith gŵr.